Y-Prime, LLC
 Polisi Preifatrwydd

Pwrpas
Mae Y-Prime, LLC (YPrime) wedi ymrwymo i dryloywder pan ddaw hi at gasglu a defnyddio Data Personol. Mae’r rhybudd hwn yn gosod allan ymrwymiad YPrime i breifatrwydd, gwarchod data, a hawliau a goblygiadau unigol parthed Data Personol.

Mae’r rhybudd hwn yn berthnasol i Ddata Personol cleientiaid, cyfranogwyr mewn treialon clinigol, gwerthwyr, ymgeiswyr am swyddi, cyflogeion, ymgymerwyr, cyn-gyflogeion, ac ymwelwyr at wefan YPrime (fel cwcis a thagiau rhyngrwyd) caiff eu darparu ar gyfer neu eu casglu a’u prosesu gan YPrime.

Eich Hawliau Preifatrwydd Califfornia
O dan ddeddf “Shine the Light”, mae hawl gan drigolion Califfornia sy’n darparu peth gwybodaeth y mae modd eu hadnabod ohono ynglŷn â chael cynhyrchion neu wasanaethau personol, teuluol neu i’r cartref i ofyn am a derbyn oddi wrthym (unwaith pob blwyddyn galendr) wybodaeth am yr wybodaeth cwsmer inni ei rannu (os o gwbl) gyda busnesau eraill ar gyfer eu dibenion marchnata uniongyrchol eu hunain. Lle bo’n berthnasol, byddai’r wybodaeth hon yn cynnwys y categorïau o wybodaeth cwsmeriaid ac enwau a chyfeiriadau’r busnesau rheiny y buom ni’n rhannu gwybodaeth cwsmeriaid â nhw am y flwyddyn galendr flaenorol (e.e., byddai ceisiadau a wnaed yn 2021 yn derbyn gwybodaeth parthed gweithgareddau rhannu yn 2020, os bu rhai).

I dderbyn yr wybodaeth hon, byddwch cystal ag anfon neges e-bost at privacy@yprime.com <mailto:privacy@yprime.com> gyda’r geiriau “Request for California Privacy Information” yn y llinell destun ac yng nghorff y neges. Darparwn yr wybodaeth y gofynnir amdani i’ch cyfeiriad e-bost mewn ymateb.

Byddwch yn ymwybodol na ddaw pob enghraifft o rannu gwybodaeth o dan ofynion y ddeddf “Shine the Light”, a dim ond gwybodaeth gymwys parthed rhannu caiff ei chynnwys yn ein hymateb.

Mae YPrime yn parchu preifatrwydd yr unigolyn ac yn gwerthfawrogi hyder ei gwsmeriaid, cyflogeion, cyfranogwyr mewn treialon clinigol, defnyddwyr, partneriaid busnes ac eraill. Bydd YPrime yn ymdrechu i gasglu, defnyddio a datgelu Data Personol mewn modd sy’n ymateb i gyfreithiau’r gwledydd lle mae’n gweithredu, ond mae hefyd â thraddodiad o gadw at y safonau moesol uchaf o ran ei ymarferion busnes.

Dylid anfon cwestiynau parthed y rhybudd hwn, neu geisiadau am wybodaeth bellach, at privacy@yprime.com <mailto:privacy@yprime.com>. Mae YPrime yn cadw at ofynion y GDPR.

Gallai’r rhybudd hwn gael ei ddiweddaru’n achlysurol. Pan gaiff ei ddiweddaru, bydd dyddiad yr adolygiad diweddaraf yn ymddangos ar ddiwedd y dudalen.

Diffiniadau
Golyga “Rheolydd Data” berson naturiol neu gyfreithiol, awdurdod cyhoeddus, asiantaeth neu sefydliad arall sydd, yn unigol neu ar y cyd ag eraill,  yn penderfynu ar bwrpas a’r modd o Brosesu Data Personol.

Golyga “Gwrthrych y Data” berson byw naturiol adnabyddedig eu y mae modd ei adnabod.

“GDPR” yw Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data\’r Undeb Ewropeaidd.

Golyga “Data Personol” unrhyw wybodaeth sy’n berthnasol i unigolyn byw y gellid ei adnabod o’r wybodaeth honno. Adnabyddir y data hynny o dan ofynion y GDPR fel “Gwybodaeth Bersonol Adnabyddadwy”.

Golyga “Prosesu” unrhyw ddefnydd a wneir o ddata, gan gynnwys ei gasglu, ei gadw, ei ddiwygio, ei ddatgelu neu ei ddinistrio.

Golyga “Prosesydd Data” berson naturiol neu gyfreithiol, awdurdod cyhoeddus, asiantaeth neu sefydliad arall sy’n prosesu Data Personol ar ran y rheolydd data.

Golyga “Categorïau Arbennig o Ddata Personol” wybodaeth parthed gwreiddiau unigolyn o ran hil neu ethnigrwydd, Data Cofnodion Troseddol, barn wleidyddol, grefyddol neu athroniaethol, aelodaeth o undeb llafur, iechyd, bywyd rhywiol neu gyfeiriadedd rhywiol a data biometrig, ac mae’n ffurf ar Ddata Personol.

Golyga “Data Cofnodion Troseddol” wybodaeth parthed euogfarnau troseddol a throseddau’r unigolyn, a gwybodaeth parthed honiadau ac achosion troseddol.

Egwyddorion Gwarchod Data
Bydd YPrime yn prosesu Data Personol yn unol â’r egwyddorion canlynol parthed gwarchod data:

  • Prosesu Data yn deg, yn gyfreithlon ac mewn modd tryloyw.
  • Casglu Data Personol dim ond at ddibenion penodol, eglur a chyfreithlon.
  • Prosesu Data Person dim ond lle bo hynny’n ddigonol, perthnasol ac yn gyfyngedig i beth sy’n angenrheidiol at ddibenion Prosesu.
  • Cadw Data Personol cywir, a chymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod Data Personol anghywir yn cael ei gywiro neu ei ddileu yn ddi-oed.
  • Cadw Data Personol dim ond am y cyfnod sydd ei angen ar gyfer Prosesu.
  • Mabwysiadu mesurau addas i sicrhau bodd Data Personol yn ddiogel, ac wedi ei warchod rhag Prosesu heb awdurdod neu’n anghyfreithlon, ynghyd â cholled, dinistr neu ddifrod damweiniol.

Cymer YPrime y cyfrifoldeb am sut y mae’n meddiannu, prosesu a gwaredu Data Personol, ac am sicrhau y caiff yr egwyddorion uchod eu cadw atynt.

  • Prosesu Data Personol yn deg, yn gyfreithlon, ac mewn modd tryloyw.
  • Casglu Data Personol dim ond at ddibenion penodol, eglur a chyfreithlon.
  • Prosesu Data Personol dim ond lle bo hynny’n ddigonol, yn berthnasol ac yn gyfyngedig i’r hyn sydd ei angen at ddibenion Prosesu.
  • Cadw Data Personol cywir a chymryd pob cam rhesymol i sicrhau y caiff Data Personol anghywir ei gywiro neu ei ddileu yn ddi-oed.
  • Cadw Data Personol dim ond am y cyfnod sydd ei angen ar gyfer Prosesu.
  • Mabwysiadu mesurau addas i sicrhau bodd Data Personol yn ddiogel, ac wedi ei warchod rhag Prosesu heb awdurdod neu’n anghyfreithlon, ynghyd â cholled, dinistr neu ddifrod damweiniol.
  • Cymryd cyfrifoldeb am sut y meddiannir, prosesir a gwaredir Data Personol, ac am sicrhau y caiff yr egwyddorion uchod eu cadw atynt.

Lle caiff ei ystyried i fod yn Rheolydd Data, bydd YPrime yn rhoi gwybod i unigolion y rhesymau dros Brosesu eu Data Personol, sut y bydd yn defnyddio data o’r math a’r sail gyfreithiol dros Brosesu, yn ei rybuddion preifatrwydd, nid prosesu Data Personol unigolion am resymau eraill. Lle bydd YPrime yn dibynnu ar ei ddiddordebau cyfreithlon fel sail am Brosesu data, bydd yn cynnal asesiad i sicrhau na chaiff y diddordebau rheiny eu tanseilio gan hawliau a rhyddid unigolion. Bydd YPrime yn diweddaru Data Personol yn ddiymdroi pe byddai unigolyn yn rhoi gwybod bod y wybodaeth amdanynt wedi newid neu’n anghywir.

Pryd caiff ei ystyried i fod yn Brosesydd Data neu’n is-brosesydd, bydd YPrime yn prosesu Data Personol dim ond yn unol â’r cyfreithiau, rheolau a rheoliadau sydd mewn grym, ac fel y cyfarwyddir yn benodol gan y rheolydd data.

Caiff Data Personol a gesglir drwy berthynas rhwng cyflogai ac ymgymerwr ei gadw yn ffeil personél yr unigolyn, ar ffurf copi caled neu electronig ac ar gyfundrefnau adnoddau dynol YPrime. Caiff y manylion parthed y cyfnodau y cedwir Data Personol o’r math, ynglŷn ag adnoddau dynol, eu cynnwys yn y rhybuddion preifatrwydd a roddir i unigolion.

Ar brydiau bydd ymgymerwyr gweithredoedd a chynnal a chadw gyda mynediad cyfyngedig at Ddata Personol wrth ddarparu cynhyrchion neu wasanaethau i YPrime. Cedwir y mynediad at Ddata Personol gan yr ymgymerwyr hyn yn gyfyngedig i’r hyn sy’n rhesymol angenrheidiol i alluogi’r ymgymerwyr i gyflawni eu dyletswydd gyfyngedig i YPrime. Mae YPrime yn mynnu bod eu hymgymerwyr gweithredoedd a chynnal a chadw yn: (1) gwarchod preifatrwydd unrhyw Ddata Personol yn unol â’r rhybudd hwn (2) ymwrthod rhag defnyddio neu ddatgelu Data Personol i unrhyw bwrpas ac eithrio i ddarparu YPrime gyda chynhyrchion neu wasanaethau, yn unol â  gofynion y gyfraith.

Mae YPrime yn cadw cofnod o’i weithgareddau Prosesu Data Personol yn unol â gofynion y GDPR.

Hawliau’r Unigolyn
Fel gwrthrych data, mae gan bob unigolyn nifer o hawliau parthed eu Data Personol.

Ceisiadau Mynediad y Gwrthrych

Mae’r hawl gan unigolion i wybod pa Ddata Personol amdanynt caiff ei reoli a’i brosesu gan YPrime, ac i sicrhau bod y Data Personol hwnnw yn gywir ac yn berthnasol ar gyfer y pwrpasau y cafodd ei gasglu gan YPrime. Pe byddai unigolyn yn gwneud cais rhesymol, bydd YPrime yn dweud wrtho/wrthi:

  • os cafodd eu data ei brosesu ac os cafodd, pam, ynghyd â’r categorïau o Ddata Personol a gasglwyd a ffynhonnell y data os na’i gasglwyd oddi wrth yr unigolyn ei hun;
  • i bwy y cafodd neu y gallai eu data gael ei ddatgelu, gan gynnwys derbynwyr oddi allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA) a’r amddiffyniadau sy’n gysylltiedig â throsglwyddiadau felly;
  • pa mor hir y cedwir eu Data Personol (neu sut y penderfynir ar y cyfnod hwnnw);
  • am eu hawliau parthed cywiro neu ddileu data, neu i gyfyngu ar neu wrthwynebu’r Prosesu;
  • am eu hawliau i gwyno wrth yr awdurdod goruchwylio preifatrwydd data perthnasol pe byddent o’r farn fod YPrime heb gydymffurfio â’u hawliau parthed gwarchod data; ac
  • os yw YPrime yn defnyddio systemau cymryd penderfyniadau awtomataidd ai peidio, a’r rhesymeg tu ôl i unrhyw system o’i math.

Bydd YPrime hefyd yn darparu’r unigolyn gyda chopi o’r Data Personol sydd wedi ei gasglu yn ystod y Prosesu.  Fel arfer bydd hyn ar ffurf electronig pe byddai’r unigolyn wedi gwneud cais yn electronig, oni fydd yr unigolyn wedi gofyn yn wahanol.

Pe byddai’r unigolyn am gael copïau ychwanegol, fe all YPrime godi tâl rhesymol, a seilir ar gost weinyddol darparu’r copïau ychwanegol.

I wneud cais i gael mynediad y gwrthrych at ddata, dylai’r unigolyn anfon neges e-bost at marketing@yprime.com <mailto:marketing@yprime.com>. Yn ymron pob achos, mae rheidrwydd cyfreithiol ar YPrime i ofyn am brawf adnabyddiaeth cyn y gellir prosesu’r cais. Hefyd, mewn rhai achosion, fe allai YPrime orfod cysylltu â’r rheolydd data lle mai YPrime fydd y Prosesydd Data (neu’r is-brosesydd), os yn berthnasol.

Fel arfer bydd YPrime yn ymateb i gais oddi fewn cyfnod o un mis o’r dyddiad pryd y cafodd ei dderbyn. Mewn rhai achosion, fel pryd y bydd YPrime yn prosesu sympiau mawr o ddata’r unigolyn, fe allai ymateb oddi fewn tri mis i’r dyddiad pryd y derbyniwyd y cais. Bydd YPrime yn ysgrifennu at yr unigolyn oddi fewn un mis o dderbyn y cais gwreiddiol i’w hysbysu os mai dyna fydd yn digwydd.

Pe byddai cais y gwrthrych am fynediad yn amlwg ddi-sail neu’n ormodol, nid oes rheidrwydd ar YPrime i gydymffurfio ag ef. Ar y llaw arall, gallai YPrime gytuno i gydymffurfio ond gan godi tâl, yn seiliedig ar gost weinyddol ymateb i’r cais. Un enghraifft o bryd y byddai cais yn cael ei ystyried i fod yn amlwg ddi-sail neu’n ormodol byddai pe byddai cais yn cael ei ail-gyflwyno â YPrime eisoes wedi ymateb. Pe byddai unigolyn yn cyflwyno cais di-sail neu ormodol, bydd YPrime yn rhoi gwybod iddo/iddi o hynny ac yn ei hysbysu os byddant am ymateb ai peidio.

Hawliau Eraill
Mae gan unigolion nifer o hawliau eraill parthed eu Data Personol. Gall unigolion fynnu bod YPrime yn:

  • rhoi gwybod iddynt am y casglu a’r defnydd o’u Data Personol;
  • cywiro Data Personol anghywir;
  • rhoi’r gorau i Brosesu neu’n dileu Data Personol nad oes ei angen mwyach at ddibenion Prosesu;
  • parhau i gadw eu Data Personol ond nid i’w ddefnyddio;
  • parchu hawl yr unigolyn i wrthwynebu’r Prosesu o’u Data Personol mewn rhai amgylchiadau, fel ar gyfer marchnata uniongyrchol;
  • darparu eu Data Personol ar ffurf gludadwy, fel y gellir ei drosglwyddo’n hawdd i amgylchedd TG arall. Fel arfer fe fydden ni cydymffurfio â’r cais hwn drwy ddarparu’r data ar ffurf ffeil gwerthoedd wedi’u gwahanu ag atalnod (csv);
  • parchu hawliau’r unigolyn parthed cymryd penderfyniadau awtomataidd yn seiliedig ar eu Data Personol;
  • rhoi’r gorau i Brosesu neu ddileu Data Personol pe byddai lles yr unigolyn yn drech na seiliau cyfreithlon YPrime dros Brosesu Data Personol (lle bo YPrime yn dibynnu ar ei ddiddordebau cyfreithlon fel rheswm dros Brosesu Data Personol);
  • rhoi’r gorau i Brosesu neu’n dileu Data Personol pe byddai’r Prosesu yn anghyfreithlon; a
  • rhoi’r gorau i Brosesu Data Personol am gyfnod os oes peth o’r data yn anghywir neu os oes anghydfod parthed a yw lles yr unigolyn yn drech na seiliau cyfreithlon YPrime dros Brosesu Data Personol ai peidio.

Er mwyn gofyn i YPrime gymryd unrhyw un o’r camau hyn, dylai’r unigolyn anfon neges e-bost at marketing@yprime.com <mailto:marketing@yprime.com>.

Gall personau yn yr Undeb Ewropeaidd (Gwrthrychau Data’r UE) gwyno wrth eu hawdurdod gwarchod data yn eu gwladwriaeth hwy, a mynnu mynd drwy broses gyflafareddu rhwymedig ar gyfer rhai ceisiadau gweddilliol na chafodd eu datrys drwy fecanweithiau eraill i wneud iawn.

Os oes gennych sylw neu bryder na ellir ei ddatrys yn uniongyrchol gyda ni, gallwch hefyd gysylltu gyda’ch awdurdod gwarchod data lleol cymwys.

Diogelwch Data
Mae YPrime yn cymryd diogelwch Data Personol o ddifrif.  Mae gan YPrime bolisïau ac arolygaeth yn eu lle i warchod Data Personol rhag colled, dinistrio’n ddamweiniol, camddefnydd neu ddatgelu, ac i sicrhau na cheir mynediad at wybodaeth ac eithrio gan gyflogeion yn cyflawni eu dyletswyddau mewn modd priodol.

Lle bydd YPrime yn gofyn i drydydd partïon brosesu Data Personol ar ei ran, bydd y partïon rheiny yn gwneud hynny ar sail cyfarwyddiadau ysgrifenedig, a chyda dyletswydd o gyfrinachedd a rhwymedigaeth i roi mewn lle mesurau technegol a threfniadol addas i sicrhau diogelwch y data.

Mae YPrime yn cydnabod ei atebolrwydd dichonol mewn achosion lle y gallai Data Personol gael ei drosglwyddo i drydydd partïon. Ni fydd YPrime yn trosglwyddo unrhyw Ddata Personol i drydydd parti heb yn gyntaf sicrhau bod y trydydd parti yn glynu at egwyddorion neu ddeddfau tebyg sy’n darparu diogelwch at lefel digonol a hafal. Mae YPrime yn cydnabod ei atebolrwydd dichonol mewn achosion lle y gallai Data Personol gael ei drosglwyddo i drydydd partïon. Ni fydd YPrime yn trosglwyddo unrhyw Ddata Personol i drydydd parti heb yn gyntaf sicrhau bod y trydydd parti yn glynu at egwyddorion neu ddeddfau tebyg sy’n darparu diogelwch at lefel digonol a hafal. Ni fydd YPrime yn trosglwyddo Data Personol at drydydd partïon anghysylltiedig, oni bai inni gael ein cyfarwyddo’n gyfreithlon i wneud hynny gan gleient neu reolydd data arall.  Er enghraifft, byddai amgylchiadau o’r fath yn cynnwys datgeliadau Data Personol cleient sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith neu broses gyfreithiol, neu ddatgeliadau a wneir er bydd hanfodol personau y mae modd eu hadnabod, fel y rhai sy’n ymwneud â bwyd, iechyd neu ddiogelwch. Pe gofynnir i YPrime i drosglwyddo Data Personol i drydydd parti anghysylltiedig, byddai YPrime yn sicrhau bod parti o’r math yn darparu lefel ddigonol a chyfatebol o ddiogelwch. Pe bai YPrime yn dod i wybod bod trydydd parti anghysylltiedig a dderbyniodd Ddata Personol gan YPrime yn defnyddio neu’n datgelu Data Personol mewn modd sy’n groes i’r hysbysiad hwn, byddai YPrime yn cymryd camau rhesymol i rwystro neu atal y defnydd neu’r datgelu.

Asesiadau Effaith
Gallai peth o’r Prosesu a wnaiff YPrime arwain at risg i breifatrwydd. Lle byddai Prosesu yn golygu risg uchel i hawliau a rhyddid unigolyn, byddai YPrime yn cynnal asesiad effaith i benderfynu a yw’r Prosesu yn angenrheidiol a chymesur. Byddai hyn yn cynnwys ystyried y pwrpas dros gynnal y gweithgaredd, y risgiau i unigolion, a’r mesurau y gellid eu cyflwyno er mwyn lliniaru’r risgiau rheiny.

Tor Diogelwch Data
Pe byddai YPrime yn canfod bod tor ddiogelwch Data Personol wedi digwydd sy’n creu risg i hawliau a rhyddid unigolyn, byddai’n adrodd ar hynny o fewn 72 awr wrth y Comisiynydd Gwybodaeth. Bydd YPrime yn cofnodi pob achos o dor diogelwch data beth bynnag bo’u heffaith.

Pe byddai’r dor diogelwch yn debygol o greu risg uchel i hawliau a rhyddid unigolion, byddai’n dweud wrth yr unigolion rheiny bod tor diogelwch wedi digwydd ac yn darparu gwybodaeth am ei ganlyniadau tebygol a’r mesurau lliniaru fyddai wedi cael eu cyflwyno.

Trosglwyddiadau Data Rhyngwladol
Gallai Data Personol caiff ei reoli neu ei brosesu gan YPrime gael ei drosglwyddo i wledydd oddi allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd.

Bydd YPrime yn sicrhau y cydymffurfir â’r rhybudd hwn drwy ddefnyddio Cymalau Contractiol Safonol cymwys, ac yn ymchwilio’n llawn a cheisio datrys unrhyw gwyn neu anghydfod parthed y defnydd a’r datgelu o Ddata Personol sy’n groes i’r rhybudd hwn.

Cyfrifoldebau Cyflogeion YPrime
Gallai cyflogeion YPrime fod â mynediad at Ddata Personol unigolion eraill a’n cwsmeriaid a’n cleientiaid yn rhinwedd eu cyflogaeth. Mewn achosion o’r fath, bydd YPrime yn dibynnu ar unigolion i’w cynorthwyo i gwrdd â’u hymrwymiadau diogelu data at staff a’r cwsmeriaid a’r cleientiaid.

Mae gofyn ar gyflogeion sydd â mynediad at Ddata Personol:

  • i edrych ar ddata y mae’r awdurdod ganddynt i gael mynediad ato ac at ddibenion awdurdodedig yn unig;
  • i beidio datgelu data ac eithrio i unigolion gyda’r awdurdod addas, boed hynny oddi fewn i YPrime neu oddi allan;
  • i gadw data’n ddiogel, er enghraifft drwy gydymffurfio â rheolau parthed mynediad at eiddo, mynediad at gyfrifiaduron, gan gynnwys gwarchod cyfrineiriau, a chadw neu ddinistrio ffeiliau’n ddiogel;
  • i beidio â symud Data Personol, neu ddyfeisiadau sy’n cynnwys neu y gellid eu defnyddio i gael mynediad at Ddata Personol, oddi ar eiddo YPrime heb fabwysiadu mesurau diogelwch addas fel amgryptiad neu warchod cyfrineiriau er mwyn sicrhau diogelwch y data a’r ddyfais;
  • i beidio â chadw Data Personol ar yrwyr lleol neu ar ddyfeisiadau personol a ddefnyddir at ddiben gwaith; ac
  • i adrodd yn ddiymdroi ynglŷn ag unrhyw dor ddiogelwch iddynt fod yn ymwybodol ohono i privacy@yprime.com.

Gallai methu a chydymffurfio â’r gofynion hyn gael ei drin fel mater disgyblaethol, a fydd yn cael ei ddelio ag ef drwy bolisïau a threfniadau disgyblu YPrime.

Bydd YPrime yn darparu hyfforddiant i’w holl gyflogeion parthed eu cyfrifoldebau gwarchod data fel rhan o’r broses gynefino ac yn rheolaidd wedi hynny.

Bydd cyflogeion y mae eu swyddi yn gofyn am fynediad rheolaidd at Ddata Personol, neu sy’n gyfrifol am weithredu’r rhybudd hwn, neu’n ymateb i geisiadau am fynediad at wybodaeth gwrthrych, yn derbyn hyfforddiant ychwanegol i’w cynorthwyo i ddeall eu dyletswyddau ac i gydymffurfio â hwy.

Preifatrwydd Rhyngrwyd
Gallai YPrime, neu drydydd partïon o dan gyfarwyddyd YPrime, gasglu Data Personol drwy ei wefan a thrwy ryngweithiadau ymwelwyr ag elfennau o’i wefan, sydd hefyd yn ddarostyngedig i’r rhybudd hwn. Byddai Data Personol felly yn cael ei gasglu pan fydd unigolyn yn cynnig ei enw a’i gyfeiriad. Gallai YPrime yn ogystal, neu drydydd partïon o dan gyfarwyddyd YPrime, gasglu gwybodaeth parthed ymweliadau â gwefan YPrime heb i unigolyn yn weithredol gynnig gwybodaeth drwy amrywiol ddulliau awtomataidd, fel cyfeiriadau IP, adnabyddion cwcis, picseli, a gweithgaredd defnyddiwr terfynol y wefan. Er na ellir adnabod unigolion penodol yn uniongyrchol drwy wybodaeth ddigidol awtomataidd o’r math, bydd porwyr gwe’r rhyngrwyd yn anfon gwybodaeth at wefan YPrime yn awtomataidd parthed y meddalwedd y bydd cyfrifiadur defnyddiwr yn rhedeg arno, fel cyfeiriad IP a’r fersiwn o’r porwr. Ni ellir defnyddio’r wybodaeth a gesglir drwy’r technolegau hyn i adnabod unigolion heb wybodaeth adnabyddadwy bellach.

Cwcis
Mae YPrime yn defnyddio cwcis, sef ffeiliau data bychain caiff eu gwasanaethu gan ein platfform a’u cadw ar eich dyfais. Mae ein safle yn defnyddio cwcis wedi eu gosod ganom ni neu drydydd partïon at nifer o ddibenion, gan gynnwys ein galluogi i weithredu a phersonoleiddio’r wefan i wella profiad y defnyddiwr ac at ddibenion hysbysebu wedi ei dargedu. Gallai oes y cwcis ddirwyn i ben ar ddiwedd eich sesiwn bori, neu fe allant gael eu cadw ar eich cyfrifiadur yn barod at y tro nesaf y byddwch yn ymweld â’r wefan. Gallwch rwystro’r cwcis rhag cael eu gosod drwy newid y gosodiadau ar eich porwr (ewch at adran “Cymorth” eich porwr i weld sut i wneud hynny). Bydd anablu cwcis yn effeithio ar eich profiad o ddefnyddio’n gwefan.

Fersiwn 9, diweddarwyd ddiwethaf 25 Mawrth 2023

Scroll to Top